#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Gorffennaf 2019
 Petitions Committee | 9 July 2019
 ,P-05-889 Labelu cig o anifeiliaid sydd wedi’u lladd mewn modd crefyddol 

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-889

Teitl y ddeiseb: Labelu cig o anifeiliaid sydd wedi’u lladd mewn modd crefyddol

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddeddfu bod unrhyw gig a chynhyrchion cig sy'n dod o anifeiliaid sydd wedi'u lladd mewn modd crefyddol yn cael eu labelu’n glir.

 

Cefndir

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofynion penodol o ran labelu cig o anifeiliaid sydd wedi’u lladd mewn modd crefyddol. Mae cynigion i'r perwyl hwn eisoes wedi ymddangos mewn deddfwriaeth Ewropeaidd ddrafft, ond nid ydynt erioed wedi cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth derfynol.

Mae gan y ffydd Fwslimaidd a’r ffydd Iddewig ofynion penodol ar gyfer lladd anifeiliaid sy'n dderbyniol o ran eu crefydd.

O dan y dull Iddewig o ladd anifeiliaid, sef Shechita, nid yw’r anifeiliaid yn cael eu stynio cyn cael eu lladd. O dan reolau bwyd Islamaidd, ar gyfer cig Halal, gall anifeiliaid gael eu stynio cyn cael eu lladd os nad yw’r anifeiliaid hynny’n marw o ganlyniad i'r weithred honno. Fodd bynnag, nid oes consensws pendant ar y mater hwn, ac mae rhai anifeiliaid yn cael eu lladd heb gael eu stynio.

Mae arolwg diweddaraf yr Asiantaeth Safonau Bwyd o ddulliau lladd (2018) (PDF 168MB) yn dangos bod 71 y cant o'r defaid a leddir yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lladd yn unol â rheolau Halal, gyda 46 y cant yn cael eu stynio a 25 y cant heb gael eu stynio cyn iddynt gael eu lladd. Ar adeg ysgrifennu'r papur briffio hwn, nid oedd dim lladd-dai yng Nghymru yn lladd anifeiliaid heb eu stynio.

Os nad yw'r anifeiliaid yn cael eu stynio cyn eu lladd, ni ellir defnyddio'r labeli Cig Oen Cymru PGI na Chig Eidion Cymru PGI (dynodiad daearyddol gwarchodedig). Mae hyn o ganlyniad i benderfyniad polisi gan Hybu Cig Cymru, y corff sy'n gyfrifol am frandiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.

Mae diogelwch bwyd, gan gynnwys labelu, yn fater sy’n cael ei reoleiddio yn bennaf ar lefel yr UE.  Tra bod y DU yn un o Aelod-wladwriaethau’r UE, rhaid i'r gweinyddiaethau datganoledig a Senedd y DU lynu wrth ddeddfwriaeth diogelwch bwyd yr UE. Mae hyn yn cynnwys gweithredu cyfraith yr UE ynghylch labelu bwyd.

Yn fras, gall y Cynulliad a Gweinidogion Cymru wneud cyfreithiau newydd dim ond mewn achosion lle maent yn meddu ar y cymhwysedd i wneud hynny ac y mae lle o fewn cyfraith yr UE i wneud hynny, neu mewn meysydd o'r gyfraith nad ydynt wedi cael eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth gyffredinol yr UE. Ni all unrhyw gynigion fynd yn groes i gyfraith bresennol yr UE. Mae hyn yn golygu nad oes fawr o gyfle i Weinidogion Cymru, nac yn wir i Lywodraeth y DU, wneud unrhyw ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â labelu bwyd.

Yn dilyn Brexit, ni fydd y DU bellach yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth yr UE, a bydd deddfwrfeydd y DU yn gallu gwneud newidiadau o fewn eu cymhwysedd os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, ynghyd â meysydd eraill sy'n ymwneud â diogelwch a safonau bwyd, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu bod labelu bwyd, o bosibl, yn un o 21 o feysydd lle bydd angen deddfwriaeth ledled y DU ar ôl Brexit – sef y drefn Fframweithiau Cyffredin.  Yn dilyn y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth DU ym mis Ebrill 2018, a deddfiad Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae gan Lywodraeth y DU y pŵer o dan adran 12 o'r Ddeddf honno i wneud rheoliadau at ddibenion 'rhewi' cymhwysedd y Cynulliad dros dro mewn perthynas â chyfraith yr UE a ddargedwir.

Petai hyn yn digwydd, ni fyddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn gallu deddfu am gyfnod, ac ni fyddai Llywodraeth y DU yn gallu deddfu ar gyfer Lloegr tra bod y rheoliadau ar waith. Ni fydd Llywodraeth y DU yn gwneud y rheoliadau hyn ‘fel arfer’ heb gydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig.  Bydd y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 12 yn dod i ben dwy flynedd ar ôl y diwrnod y mae'r DU yn ymadael â’r UE, a bydd y rheoliadau dan sylw yn gallu para am hyd at bum mlynedd. Mewn achos o 'rewi' cymhwysedd, byddai cyfnod o oedi cyn y gallai’r Cynulliad ddeddfu yn y maes dan sylw, ynghyd â deddfwrfeydd eraill y DU. Gallai’r cyfnod hwn bara am hyd at saith mlynedd yn dilyn Brexit.

Daeth Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd yr UE (1169/2011)i rym yn Aelod-wladwriaethau'r UE ym mis Rhagfyr 2014. Ni chafodd darpariaeth benodol i gyflwyno mesurau adnabod ar gyfer labeli bwyd er mwyn dangos a gafodd anifail ei stynio cyn cael ei ladd ei gynnwys yn ystod y cyfnod o ddatblygu’r Rheoliad. Fodd bynnag, tarwyd cytundeb cyfaddawd i ystyried y mater ymhellach.

O ganlyniad, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd adroddiad ar ei 'astudiaeth o wybodaeth i ddefnyddwyr ar stynio anifeiliaid' yn 2015. Roedd nifer o gasgliadau wedi'u nodi yn yr adroddiad, gan gynnwys y casgliadau a ganlyn:

§    Ychydig o ddealltwriaeth fanwl gywir sydd gan ddefnyddwyr o ran y broses o ladd anifeiliaid; a

§    Nid yw gwybodaeth am stynio anifeiliaid cyn eu lladd yn fater pwysig i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr oni bai y tynnir eu sylw at y mater. Yn gyffredinol, mae lefel y diddordeb yn uwch ymhlith y gwledydd a oedd yn Aelod-wladwriaethau'r UE cyn 2004 (sy'n cynnwys y DU) o gymharu â'r gwledydd a ymunodd â’r UE yn 2004.

Roedd methodoleg yr astudiaeth yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth, cyfweliadau â rhanddeiliaid a grwpiau ffocws, astudiaethau achos mewn Aelod-wladwriaethau (gan gynnwys un yn y DU) a chyfweliadau ffôn gyda 13,500 o brynwyr cig, sef 500 ym mhob Aelod-wladwriaeth.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, at y Pwyllgor ar 23 Mai 2019, gan gyfeirio at y ddeiseb hon. Meddai:

 … After the UK leaves the European Union it may be necessary to consult on the reform of the information that is presented on food labels, and information relating to the method of slaughter might be included in such a consultation. Until the final terms of the UK withdrawal have been agreed it is not possible to give you a timetable when any consultation might be published.

Producers are able to display the logos of different certification scheme on their products, however this is not mandatory. …

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 9 Mai 2018, gwnaeth Neil Hamilton AC, ofyn i'r Gweinidog a fyddai'n:

…ystyried gwella ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r cig y mae aelodau o'r cyhoedd yn ei fwyta drwy wella'r broses o labelu cynhyrchion yn gywir, gan nodi gwlad tarddiad, amgylchiadau magu, ac yn anad dim, dulliau lladd, oherwydd er bod yn rhaid inni barchu gwahanol safbwyntiau crefyddol ar ladd yn unol â defodau crefyddol, nid oes gan y cyhoedd unrhyw syniad, yn aml, eu bod yn bwyta cig halal, er enghraifft, ac efallai na fyddent yn dymuno gwneud hynny pe bai ganddynt ddewis.

Atebodd y Gweinidog:

Credaf fod labelu bwyd yn dod yn fwyfwy pwysig gan y credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn y pynciau y cyfeirioch chi atynt, ac unwaith eto, mae'n sgwrs ac yn drafodaeth a gawn nid yn unig ar lefel swyddogol, ond hefyd ar lefel weinidogol yn ein cyfarfodydd pedairochrog [cyfarfodydd gyda Gweinidogion o Lywodraethau eraill y DU], ac unwaith eto, ceir cyfle arall gyda Brexit i sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn. ...

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.